| Hafan Metrix | Am y Rhaglen AHA | Am Metrix | Metrix Training | Adeiladu'r CTA | Cymru | Metrix yn y Cyfryngau | Cysylltu |

Datblygu safle Sain TathanBydd y Coleg Technegol Amddiffyn (CTA) yn gyfleuster hyfforddiant cwbl newydd a fydd yn darparu cyfleusterau hyfforddi pwrpasol i’r Lluoedd Arfog am y tro cyntaf, lle y bydd adeiladau’n cael eu dylunio’n benodol i fod yn gartref i fethodoleg a thechnegau hyfforddi heddiw er y byddant yr un pryd yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion cyfnewidiol y gwasanaethau milwrol yn y dyfodol. Ein nod yw y bydd y CTA yn gartref addas i’r dynion a’r menywod yn y gwasanaethau a fydd yn derbyn hyfforddiant yn Sain Tathan yng nghwrs y 25 i 30 mlynedd nesaf. Felly, fy ngwaith i yw cymryd elfennau craidd y rhaglen AHA, sef un o’r prosiectau mwyaf a mwyaf cymhleth yr ymgymerwyd ag ef erioed gan y Weinyddiaeth a mynegi, trwy gynllunio, dylunio a phensaernïaeth ardderchog, weledigaeth yr AHA i drawsnewid sut mae hyfforddiant arbenigol yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi’n well anghenion Lluoedd Arfog y Du yn y dyfodol.Beth yw uchelgais y CTA? Bydd yn darparu hyfforddiant a chyfleusterau sgiliau technegol modern a bydd yn trawsnewid darpariaeth hyfforddiant trwy fethodoleg a thechnoleg newydd a thrwy ddefnyddio dysgu o bell a dysgu cyfun mewn ffordd briodol ac amserol. Am hynny, bydd angen i gyfleusterau’r CTA fod yn hyblyg ac yn addas i’r dull hyfforddi deinamig a gynigir. Mewn gair, bydd y CTA yn cynnig cyfleusterau hyfforddi gwych a fydd yn esblygu i ateb anghenion cyfnewidiol Lluoedd Arfog y DU.
|
![]() Bydd angen i gyfleusterau’r CTA
fod yn hyblyg ac yn addas i’r dull hyfforddi deinamig a gynigir.
Tu mewn Awyrendy’r Ddraig Goch - canolbwynt y CTA - yw un o’r cyfleusterau dan do mwyaf yn Ewrop. Codwyd yr adeilad tua phedair blynedd yn ôl ac fe’i dyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer gwaith awyrenneg i’r MRO. Bellach bydd yn cael bywyd newydd a chyffrous fel canolfan hyfforddiant technegol. |
Golwg ar Sain Tathan
Bydd y CTA amgylchedd Yn ymarferol, bydd tref yn dod i’w hoed wrth i’w thrigolion brynu cartrefi yn ei chanol, wedi’u denu yno gan siopau cyfleus neu hyd yn oed weithle cyfleus. Bydd y CTA yn Sain Tathan, am ei fod yn debyg ei faint i dref fechan, yn meddu ar yr holl gyfleusterau a ddisgwyliech mewn tref fechan: siopau, tafarnau, tai bwyta ac addoldai. Mae’n addo bod yn ddrych felly i lefel cyfleuster tref gyfoes i’r dynion a’r menywod a fydd yn derbyn hyfforddiant yno, yn gystal ag i’r hyfforddwyr a fydd yn byw ar y safle. Nod amgen y CTA fydd ystafelloedd dosbarth rhagorol a chyfleusterau chwaraeon a hamdden rhagorol.
|
| © 2009 | |||||