| Hafan Metrix | Am y Rhaglen AHA | Am Metrix | Metrix Training | Adeiladu'r CTA | Cymru | Metrix yn y Cyfryngau | Cysylltu |

Datblygu safle Sain TathanCanolbwynt y safle fydd y cyfleusterau dan do mwyaf yn Ewrop, sef Awyrendy’r Ddraig Goch. Codwyd hwn tua phedair blynedd yn ôl ac fe’i bwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer ymchwil awyrennol. Fe’i defnyddir mewn ffordd newydd a chyffrous bellach. Er mwyn deall maint y cyfleuster hwn yn ei gyd-destun, mae Awyrendy’r Ddraig Goch yn ddigon mawr i gynnwys chwe awyren VC10. Ar ben hynny, mae ei gynllun a’i offer yn berffaith ar gyfer cynnal hyfforddiant, boed ar yr asedau eu hunain, sef yr awyrennau a’r cerbydau a fydd yno, ac yn yr ystafelloedd dosbarth a adeiledir ynddo ac o’i amgylch. Bydd yr ystafelloedd dosbarth yn y parth technegol fel y gall y myfyrwyr yn cael edrych ar yr asedau y maent yn dysgu amdanynt yn ogystal â dilyn dosbarthiadau mewn cyfleusterau pwrpasol a fydd ynghlwm wrth yr awyrendy. Bydd blocau llety newydd sbon y CTA yn cynnwys rhagor na 3700 o ystafelloedd gwely ac mae’n hawdd gweld o edrych ar y lluniau a’r diagramau a geir yn yr erthygl hon ein bod yn creu safle a fydd nid yn unig yn lle rhagorol i ddysgu ond a fydd hefyd yn darparu amgylchedd modern a chyffrous i fyw ynddo gyda’r holl weithgareddau hamdden a chwaraeon a ddisgwylir gan hyfforddwyr a rhai dan hyfforddiant a thrigolion lleol hefyd. Bydd y CTA yn amgylchedd a fydd yn denu ac yn cadw personel yn y Gwasaanethau yn y dyfodol ac a fydd, fe gredwn, yn creu’r ddelwedd gywir a gwneud yr argraff cywir ar bobl ifanc sydd am ddilyn gyrfa yn y Lluoedd Arfog. Ar ben popeth, gweledigaeth y CTA yn Sain Tathan yw sicrhau bod pawb sy’n derbyn hyfforddiant yno – a phawb sy’n darparu hyfforddiant ac sy’n helpu i redeg y safle – yn cael y cyfleusterau gorau, yr offer gorau a’r amgylchedd gorau y gellir eu creu ar gampws modern. |
![]() Bydd angen i gyfleusterau’r CTA
fod yn hyblyg ac yn addas i’r dull hyfforddi deinamig a gynigir. ![]() Tu mewn Awyrendy’r Ddraig Goch - canolbwynt y CTA - yw un o’r cyfleusterau dan do mwyaf yn Ewrop. Codwyd yr adeilad tua phedair blynedd yn ôl ac fe’i dyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer gwaith awyrenneg i’r MRO. Bellach bydd yn cael bywyd newydd a chyffrous fel canolfan hyfforddiant technegol.
|
Golwg ar Sain Tathan
|
| © 2009 | |||||