Metrix
In 2001, the MOD published a report entitled 'Modernising Defence Training'. The report highlighted that future Defence Training needed to be more integrated, managed in a Defencewide basis and the training estate needed investment and rationalisation.

Gwerth y Rhaglen AHA

Darllen pellach

I ddarllen rhagor am adroddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn 'Modernising Defence Training'
I lawrlwytho’r adroddiad llawn ar yr Arolwg Hyfforddiant Amddiffyn Cliciwch yma.

Ewch i wefan y Weinyddiaeth
I wybod rhagor am yr AHA, ewch i wefan y Weinyddiaeth Cliciwch yma.. Defence Logo

 

Mae’r rhaglen AHA yn darparu’r canlynol:

1. I’r Weinyddiaeth Amddiffyn
Rhaglen hyfforddi wedi’i rhesymoli sy’n dod â threfniadau hyfforddi modern a chost-effeithiol i’r lluoedd yn y rheng flaen, gan alluogi’r DU i aros ar y blaen ymhlith lluoedd arfog modern a medrus y byd.

2. I bersonél yn y lluoedd
Gyrfa gyda’r Weinyddiaeth pryd y cynigir hyfforddiant iddynt sy’n defnyddio’r dulliau dyfeisio a darparu diweddaraf. Bydd y rhain yn gwbl gyson â’u sgiliau addysgol, cymdeithasol a gwybyddol.

3. I’r DU
Wedi iddynt adael y gwasanaethau, bydd gan bersonél set o sgiliau profedig a gofnodwyd sy’n gwbl gyson â mentrau’r Llywodraeth ar gyfer addysg bellach a dysgu gan oedolion. Bydd y rhaglen AHA yn sicrhau bod achredu’n digwydd fel rhan o drefn eang ac amrywiol o NVQ hyd at lefel ôl-raddedig. Defnyddio technolegau hyfforddi i symleiddio a chefnogi hyfforddiant milwrol yn yr unfed ganrif ar hugain y gellir ei rannu fel arfer gorau gydag Adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn iddynt gyrraedd eu nod fel sefydliadau dysgu modern; Anghenion y genedl o ran darparu man arloesol a symbiotig i ddiwydiant a’r byd academaidd gydweithio ar bob lefel i ddatblygu a phrofi hyfforddiant galwedigaethol a ddarperir trwy ddulliau technolegol newydd, yn enwedig ar gyfer diwydiannau y nodir amdanynt yn adroddiad Leitch eu bod mewn sefyllfa arbennig i drawsnewid eu haddysg gan ddefnyddio technoleg;

Mae cefnogaeth ledled y wlad i Ddysgu yn y Gweithle a gynigir mewn amgylchedd lle y gall y Sector Addysg Bellach weithio mewn partneriaeth â Diwydiant i hyrwyddo defnyddio technoleg, methodolegau a rhaglenni dysgu modern yn y ffordd orau i gefnogi dysgu yn y gweithle trwy ddatblygu prototeipiau ymarferol a rhannu arfer gorau;

Mae angen y genedl i ddatblygu cryn lawer o gynnwys galwedigaethol  digidol yn yr un modd ag a grëir i’r sectorau addysg gynradd ac uwchradd.

4. I’r Gymuned Leol a Rhanbarthol
Rydym yn deall yn dda pa mor bwysig yw cynnal a gwella bywiogrwydd y gymuned a’r economi lleol fel rhan annatod o greu’r Coleg Technegol Amddiffyn (CTA).

Bydd y CTA yn creu llawer o swyddi newydd, yn ogystal â chreu cyfleoedd arwyddocaol i gyflenwyr lleol yn ystod y cyfnodau adeiladu a rhedeg.

Bydd y swyddi a grëir gan y CTA, ynghyd â’r bobl dan hyfforddiant a fydd yn mynychu, yn golygu chwistrellu miliynau o bunnoedd i’r economi lleol yn ne Cymru. Unwaith y bydd y CTA ar waith, bydd yn ychwanegu at enw da de Cymru fel canolfan i’r economi gwybodaeth, gan helpu i ddenu rhagor o fuddsoddi i’r ardal.

.


Rhaglen yr Arolwg Hyfforddiant Amddiffyn (AHA): Cliciwch yma i ddychwelyd at y trosolwg

Metrix
SodexoQinetiQ
Laing O'Rourke City & Guilds The Open University Nord Anglia Education PLC EDS Raytheon