Metrix
The Metrix consorium combines the best in technical knowledge, the best in education and training and the best in land property and facilities management

Am Metrix

Mae consortiwm Metrix yn cyfuno’r wybodaeth dechnolegol orau, yr addysg a’r hyfforddiant gorau a’r rheolaeth orau ar eiddo, tir ac adnoddau.

Bydd y consortiwm yn darparu popeth sydd ei angen ar y Weinyddiaeth Amddiffyn gan bartner Hyfforddiant Amddiffyn.

Rydym yn dod â dealltwriaeth ddi-ail o’r gallu i weithredu a hefyd o brosesau busnes gwaelodol y Weinyddiaeth a byddwn yn cynnal partneriaeth a fydd yn gwarantu effeithiolrwydd, hyblygrwydd a’r gallu i ddarparu ym mhob agwedd ar ateb Metrix. O fewn y consortiwm rydym yn cynnig manteision rhaglenni masnachol ar raddfa fawr iawn i’r Weinyddiaeth gyda chymorth enwau profiadol megis QinetiQ, Sodexo, Raytheon, Nord Anglia Education, EDS a’r Brifysgol Agored.

Bydd Metrix yn defnyddio dull ffres ac arloesol ac yn rhoi gwir werth am arian.
Charles Barrington
Charles Barrington,
Cadeirydd, Metrix

Bywgraffiad

Jim MorrisonJim Morrison,
CEO, Metrix UK

Bywgraffiad

Charles Barrington

Enillodd Charles Barrington gymhwyster gyda Touche Ross (Deloitte&Touche bellach) yn 1970. Treuliodd 10 mlynedd yn y diwydiant brocera llongau, ac 16 mlynedd wedi hynny fel bancwr a bancwr buddsoddiadau. Ei swydd uwch olaf ym myd bancio oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Hill Samuel, cyn i TSB gael ei gymryd drosodd gan Lloyds. Pan ddaeth Hill Samuel i ben yn 1996, aeth Charles yn ymgynghorydd annibynnol, gan arbenigo prosiectau Cyllid Preifat i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Bu’n gyfarwyddwr anweithredol o ATRA o 1997 hyd 2001.

Yn sgil arwain ffurfio consortiwm MoDeM, a oedd yn is-gynigydd ar brosiect Adeiladu’r Weinyddiaeth, gofynnwyd i Charles ymuno â RMPA fel Cyfarwyddwr Prosiectau yn sgil penodi’r cwmni’n Gynigydd o ddewis ar brosiect Garsiwn Colchester yn Hydref 1999. Cymerodd 4 blynedd i gau Colchester ac roedd yn her o gofio cymhlethdod y prosiect a'r ystod eang o faterion y bu gofyn ymdrin â nhw.

Mae Charles bellach yn Gadeirydd anweithredol RMPA. Roedd hefyd yn Gadeirydd anweithredol AHA Holdfast, sef un o’r ddau gynigydd terfynol ar Becyn 2 AHA, a chynigiodd gyngor i Holdfast RSME ar faterion tir eithriedig a chynllunio ar y prosiect Partneriaeth Gyhoeddus-Breifat RSME. Mae hefyd yn cadeirio bwrdd Archwilio Bwrdd Gwarant Sicr Llundain, cwmni lapio bondiau sydd erbyn hyn yn weithgar yn y Farchnad Ewropeaidd a Rhyngwladol, ac mae’n gwasanaethu ar Banel Hawliadau Eiddo Gelyniaethus yr Adran Masnach a Diwydiant.

Jim Morrison

Penodwyd Jim Morrison CBE yn Brif Weithredwr Metrix UK ar ddechrau mis Mehefin 2008. Bu’n ymgynghorydd uwch gyda DLA Piper LLP a chyn ymuno â Metrix fe’i secondiwyd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, lle bu’n arwain Partneriaeth Gyhoeddus-Breifat Ysgol Frenhinol Peirianneg Filwrol Isadran Recriwtio a Hyfforddi'r Fyddin, sydd i gau yn ddiweddarach eleni.

Ymunodd Jim â DLA Piper yn sgil gyrfa yn y Fyddin a gyrhaeddodd ei phenllanw pan benodwyd ef yn Arweinydd Prosiect Garsiwn Colchester. Mae wedi arwain ar lefel Catrawd ac mae wedi dal nifer o swyddi hyfforddi a logisteg ar y maes ac fel aelod o staff. Mynychodd Gwrs Arweinwyr a Staff y Lluoedd Cyfun yn Greenwich a gwasanaethodd ar y Staff Canolog ym Mhrif Adeilad y Weinyddiaeth. Mae ganddo record lewyrchus o gaffaeliad yn y Sector Cyhoeddus, yn bennaf gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ond bu hefyd yn arweinydd masnach ar Brosiect Defnyddwyr Loriau’r HMRC a chynigiodd gyngor ar gaffaeliad i gynllun Gwella Ffyrdd Cyngor Dinas Birmingham.

The companies leading the Metrix consortium

SodexoQinetiQ

Metrix
SodexoQinetiQ
Laing O'Rourke City & Guilds The Open University Nord Anglia Education PLC EDS Raytheon