Metrix
Metrix and the DTR Package 1 project are frequently in the news. This site aims to provide an insight into what is written and broadcast.
Datganiad Metrix i’r Wasg– Cyhoeddiad Gweddnewid
Hyfforddiant Cynnar

Mae cytundeb gwerth £31 miliwn wedi ei arwyddo rhwng Metrix a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cliciwch yma i weld y Datganiad i'r Wasg yn llawn

Canolfan hamdden ar gyfer safle hyfforddi £12 biliwn
Mae canolfan hamdden a chwaraeon ac amgueddfa i ddenu twristiaid ymysg y datblygiadau a gynllunnir ar gyfer yr academi Hyfforddiant Amddiffyn gwerth £12 biliwn yn Sain Tathan.

Datgelwyd manylion yngl?n â beth yn union fydd yn cael ei adeiladu yng nghyn safle’r Awyrlu yn Sain Tathan mewn cais cynllunio a gyflwynwyd yn ffurfiol i Gyngor Bro Morgannwg ddoe... Mwy...

Coleg Technegol Amddiffyn: cychwyn adeiladu tref Gymreig o’r sylfaeni
Dair wythnos yn ôl, rhoddodd cyngor Bro Morgannwg yn ne Cymru ganiatâd i gychwyn adeiladu Coleg Technegol Amddiffyn yn Sain Tathan. Er y bydd yn costio £700 miliwn, byddai disgrifio’r datblygiad hwn fel dim mwy na choleg yndebyg i ddisgrifio Palas Buckingham fel t? mawr. Mae’r gwaith, fel y dywed y cyfarwyddwr cynllunio ac adeiladu Alastair Page, yn debycach i adeiladu tref fechan o’r sylfaeni... Mwy...


Arwyddo cytundeb Gweddnewid Hyfforddiant Cynnar

Brigadydd Tony Harking, Arweinydd Tîm Prosiect Integredig, Pecyn1 AHA, yn ysgwyd llaw Jim Morrison, Prif Swyddog Gweithredol Metrix UK ar ddiwrnod arwyddo’r cytundeb Gweddnewid Hyfforddiant Cynnar (GHC). Bydd y cytundeb GHC gwerth £31 miliwn rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn a Metrix yn sicrhau fod Metrix yn cymryd y camau cyntaf tuag at ddarparu gwelliannau allweddol i hyfforddiant technegol Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig
  Lluniau Metrix a Phecyn 1 AHA

Carwyn Jones yn rhoi ymrwymiad cadarn i brosiect Sain Tathan
John Smith
Dywedodd yr AS ar gyfer Bro Morgannwg, John Smith, “Rwy’n croesawu ‘diddordeb personol agos’ y Prif Weinidog yn sicrhau y daw’r coleg technegol amddiffyn £12 biliwn i Gymru… Mwy …
Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi eu cefnogaeth i'r Coleg Technegol Amddiffyn
John Smith
“Rwyf i a Nick Clegg yn cefnogi'r Coleg Technegol Amddiffyn yn Sain Tathan”
Mwy …

"Rydym wedi bod yn gefnogol iawn i brosiect Sain Tathan" medd Fox
Dr. Liam Fox
Cyfweliad gyda Dr Liam Fox AS, BBC Radio Wales   Mwy…

"Mae Cyfamod Milwrol yn mynnu’r hyfforddiant gorau, y llety gorau, a’r dyfodol gorau i’r dynion a menywod ifanc.” Medd cadeirydd Metrix UK
Charles Barrington
Araith gan Charles Barrington, cadeirydd Metrix UK, Charles Barrington, 5.10 Mwy…

 
Yn y newyddion –
Y sylw a roddwyd Metrix ac AHA yn y wasg.

Cameron yn "ymroddedig" i academi hyfforddiant amddiffyn arfaethedig

Mynnodd Mr Cameron, wrth siarad ar ddiwrnod agoriadol cynhadledd flynyddol ei blaid ym Manceinion, ei fod yn “ymroddedig” i academi hyfforddiant amddiffyn £12 biliwn arfaethedig ym Mro Morgannwg ... Mwy…

Coleg Technegol Amddiffyn ‘o Bwysigrwydd Cenedlaethol’ yn cael ei ganiatáu gan Gyngor Bro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i gymeradwyo’r cais cynllunio ar gyfer y Coleg Technegol Amddiffyn (CTA) yng Ngweinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, ac yn yr wythnosau nesaf bydd Llywodraeth y Cynulliad a’r Weinyddiaeth yn cwblhau’r prosesau statudol angenrheidiol... Mwy…

Golwg ar y sylw diweddaraf yn y wasg

S.Wales Echo - AS yn canmol cefnogaeth i’r ganolfan- 25.1
BBC - '£29miliwn ar gyfer gwaith ar academi amddiffyn’' - 11.1
British Army Magazine - 4.11
Financial Times
- 16.10
Building - 16.10
Training and Simulation Journal - Hyd/Tach
www.publicservice.co.uk - 29.9
Society of Procrument Officers - 28.9
Building & Engineer online - 25.9
BBC News online - 25.9
Daily Express - 23.8
Interactive investor - 18.8

Erthyglau nodwedd i ddod

DMJ, Rhagoriaeth Dechnegol
Sustain, I Ymgynghorl Arno

A rhagor o’r cyfryngau rhanbarthol a masnachol

Gem - 'AS y Fro yn ffyddiog ynghylch coleg amddiffyn' - 14.1
SW Echo - 'Carreg Filltir Fawr ar gyfer coleg amddiffyn' - 12.1
W. Mail - 'Dyfarnu cytundeb i ddechrau gweithio' - 12.1
Build - 'Dyfarnu Cytundeb Coleg Amddiffyn' - 11.1
AJ - 'Cameron yn ymosod ar y Llywodraeth oherwydd coleg milwrol £13 biliwn' - 11.1
Western Mail - 'Dyfarnu cytundeb £29miliwn' - 11.1
Building - 'Metrix yn ennill cytundeb £29miliwn' - 11.1
Construction News - 'Metrix yn sicrhau cytundeb £29miliwn - 11.1
Western Mail - 'Angen sicrwydd' - 8.1
Western Mail - 'Cytundeb yn Fyw' - 1.12
Church Building - Teml Gurkha - 1.11
ABC&D - DTC CTA yn Mynd yn ei Flaen - 1.11
Construction News - Rob Stewart - 12.11
Contract Journal - Rob Stewart - 10.11
Western Mail - 7.10
Western Mail - 3.10
Barry & District News - 1.10
Wales Online - 25.9
Architects Journal - Cynlluniau Teml Gurkha
Civic and Public Building - Cynlluniau Teml Gurkha
Building - Cynlluniau Teml Gurkha
South Wales Echo - Teml Gurkha - 31.8


Metrix yn y cyfryngau - Archif erthyglau


METRIX GAN METRIX
Darlienwch am DTR Pecyn 1 gan y bobl sy'n gwelthio i Metrix.

The Metrix Training Solution

Cyflwynlad i Dim Metrix Property



Yn achos ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Christopher Moseley, Metrix UK, ar christopher.moseley@metrixuk.com / Ffôn +44 (0) 7941 126064.

Wrth roi sylw ar y newyddion fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dyrannu cytundeb Gweddnewid Hyfforddiant Cynnar (GHC) gwerth £31 miliwn i gonsortiwm Metrix, dywedodd John Smith, AS Bro Morgannwg: “Mae’r newyddion yn dangos unwaith eto ymroddiad y Llywodraeth i Sain Tathan. Mae prosiect Sain Tathan yn dod yn ei flaen yn dda. Mae’n arbennig o dda bod y buddsoddiad hwn, yr uchaf erioed, yn digwydd yn Sain Tathan. Rwyf am i bobl a busnesau yma ym Mro Morgannwg a Chymru elwa cymaint â phosibl o’r prosiect hwn dros y 25 i 30 mlynedd nesaf. Dyna pam y byddaf yn parhau i weithio’n galed i amlhau i’r eithaf y manteision i bobl a busnesau lleol.”

Mae Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi sôn am fanteision enfawr y Coleg Technegol Amddiffyn (CTA) i Dde Cymru gan ddatgan y bydd y Coleg yn esiampl arweiniol i hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig.

Cydnabu Mr Hain, oedd yn siarad yn Nerbyniad Haf Cymru yn Llundain yng Nghlwb y Llynges a’r Fyddin yn St James’s Square, Llundain ar 25 Mehefin, bwysigrwydd y Coleg fel canolfan i ddatblygu sgiliau allweddol mewn peirianneg cyfathrebu, awyrennol ac electro-fecanyddol. Dyma’r sgiliau, meddai Mr Hain, a fydd yn amhrisiadwy i Luoedd Arfog y Deyrnas Unedig, i Gymru ac i’r economi ehangach.

“Bydd y buddsoddiad mewn hyfforddiant o’r math a gynigir i ddynion a menywod yn y Coleg Technegol Amddiffyn yn y dyfodol yn helpu i gadw Prydain yn ei le fel arweinydd diwydiannau byd eang megis y diwydiant aerofod.

Fe wyddom i gyd fod y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu rhai o bersonél milwrol mwyaf cymwys y byd, a bydd y Coleg Technegol Amddiffyn yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg yn helpu i sicrhau fod Prydain yn cadw’r enw da hwn wrth inni wynebu heriau’r ganrif hon.”

Mae Cymru yn Llundain yn sefydliad gwleidyddol amhleidiol sy’n ceisio cefnogi buddiannau Cymru yn y brifddinas. Sefydlwyd y gymdeithas ym Mai 1994 pan ymunodd aelodau Cymdeithas Gyhoeddusrwydd Cymru Llundain â Changen Llundain o’r Sefydliad Materion Cymreig i greu Cymru yn Llundain.

Rhan o gyfweliad gyda Dr Liam Fox AS, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Wrthblaid, BBC Radio Wales, 5.10.09

PETER JOHNSON: Cyflwynydd
A gaf i ofyn i chi’n gryno, allwch chi ddweud ar y rhaglen heddiw p'un a  fyddwch yn fodlon cefnogi Academi Amddiffyn Sain Tathan, sy’n hynod, hynod bwysig i economi Cymru?

DR LIAM FOX AS: Ysgrifennydd Amddiffyn yr Wrthblaid
Wel, rydym ni wedi bod yn gefnogol iawn erioed i brosiect Sain Tathan. Rydym yn credu ei fod yn cynnig dull o gael hyfforddiant o ansawdd uchel ac rwy’n credu fod gan hyfforddiant o ansawdd uchel swyddogaeth hynod bwysig.

PETER JOHNSON:
A fyddwch yn mynd ati i sicrhau fod y gwaith yn mynd yn ei flaen os byddwch yn llywodraethu?

DR LIAM FOX AS :
Wel, rydym yn gefnogol o ran egwyddor. Byddwn yn edrych i weld pa mor gyflym y gallai prosiect o’r fath ddigwydd wrth i ni ymgymryd â’n harolwg amddiffyn strategol.

PETER JOHNSON:
Diolch yn fawr iawn – Liam Fox, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Wrthblaid.

 


Mae’r canlynol yn araith a roddwyd gan gadeirydd Metrix UK, Charles Barrington, yn Nerbyniad Plaid Geidwadol Cymru ym Manceinion ar 5 Hydref. Roedd Arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron, a Changhellor yr wrthblaid, George Osborne, yn bresennol yn y Derbyniad

"Mr Cameron, Mrs Edwards, Mrs Gillan, Foneddigion a Boneddigesau,

Charles Barrington, Cadeirydd Metrix, ydw i ac mae’n bleser gennyf noddi Derbyniad Plaid Geidwadol Cymru.

Rwyf wedi cael ar ddeall fod gennyf ddau funud, felly gwell i mi fwrw ati. Hoffwn wneud tri phwynt.

Yn gyntaf, ein her ni yw darparu’r hyfforddiant milwrol technegol gorau yn y byd i’n milwyr, morwyr a’n hawyrlu. Rydym yn disgwyl llawer iawn ganddynt; maent yn cyflawni yn wyneb y disgwyliad hwnnw ac yn llawn haeddu ein cefnogaeth. Nid yn unig yn awr, fel gweithwyr gwasanaeth, ond yn eu bywydau yn y dyfodol fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas. Byddwn yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy iddynt fynd gyda hwy wedi iddynt adael y Gwasanaethau. Bydd hyd at 4,000 o fyfyrwyr ar yr un pryd yn Sain Tathan, gyda hyd at 20,000 o fyfyrwyr yn croesi’r trothwy pob blwyddyn. Hwn fydd cyfleuster hyfforddiant technegol mwyaf y wlad.

Gwnaeth cyhoeddiad Michael Gove argraff arna i heddiw: bydd y prosiect hwn yn bartner Cymreig perffaith i’r fenter honno.

Yn ail, maint. Mae’r prosiect yn werth hyd at hanner biliwn y flwyddyn i economi Cymru, heb sôn am y gwariant trydydd parti gan fyfyrwyr, eu teuluoedd, cyflogwyr ac ymwelwyr. Gobeithiwn greu perthynas agos â sector prifysgolion Cymru, ac i ychwanegu at y strategaeth sgiliau mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei chefnogi.

Yn drydydd, yn y cyfnod anodd hwn, mae’r prosiect yn gost effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian. Ni fydd canslo’r prosiect yn arbed £12 biliwn: ein gwaith ni yw gwario’r £12 biliwn hwnnw (sef cyllideb hyfforddiant bresennol y Weinyddiaeth Amddiffyn) yn fwy effeithiol.

Yn olaf, ac fe hoffwn gloi gyda’r pwynt hwn. Mae’r Cyfamod Milwrol yn mynnu ein bod yn darparu’r hyfforddiant gorau, y llety gorau, a’r dyfodol gorau i’r dynion a menywod ifanc sy’n peryglu eu bywydau er eich mwyn chi a’n gwlad.

Foneddigion a boneddigesau, rwy’n gobeithio y cewch noson ardderchog.”."

Cameron yn "ymroddedig" i academi hyfforddiant amddiffyn arfaethedig

Mynnodd Mr Cameron, wrth siarad ar ddiwrnod agoriadol cynhadledd flynyddol ei blaid ym Manceinion, ei fod yn “ymroddedig” i academi hyfforddiant amddiffyn arfaethedig gwerth £12 biliwn ym Mro Morgannwg, sy’n addo creu 5,000 o swyddi.

Ond fe ddywedodd y byddai’n rhaid adolygu’r cynllun yn gyntaf.

Dywedodd Mr Cameron ei fod eisiau gweld yr academi hyfforddiant amddiffyn yn Sain Tathan - gyda’i addewid o 5,000 o swyddi - yn bwrw ymlaen, ond y dylid hefyd cynnal adolygiad amddiffyn strategol.  Meddai: “Mae pawb eisiau gweld hyn yn digwydd, eisiau iddo fwrw ymlaen...." Mwy…

Dim ond hen grintach fyddai’n gwadu manteision traffyrdd modern, ond un o’i anfanteision yw eu bod yn niwtraleiddio’r dirwedd. Mae’r olygfa wledig ar bob ochr yn gwibio heibio fel niwl, gan ein gadael heb unrhyw syniad yngl?n â rhai o ranbarthau bychain y Deyrnas Unedig. Un o’r ardaloedd hyn yw Bro Morgannwg. I nifer ohonom, nid yw’n ddim mwy na llain o dir neb ar yr M4 rhwng cyrion Caerdydd a Phen-y-bont. Ac eto fe ymddengys y bydd yr ardal hon yn ardal ffyniant yn y ddegawd nesaf.

Mae gwastatir cefn gwlad a’i ffermydd llaeth yn debyg iawn o ran golwg i rannau o Ddyfnaint yng ngorllewin Lloegr. Mae’n frith o bentrefi megis Tregolwyn, Sain Nicolas a Thresimwn ac, fel Dyfnaint, mae iddo arfordir dramatig. Mae’r bardd Dannie Abse, sydd wedi bod yn berchen ar d? yn Ogwr ers degawdau, wedi ysgrifennu llawer am y clogwyni stormus a’r machlud “cemegol” arbennig. Nid yw’n fawr o syndod felly fod Bro Morgannwg yn ardal gymudo boblogaidd ar gyfer gweithwyr Caerdydd. Dyma ble mae rhai o brif sêr cyfryngau a chwaraeon Cymru’n byw, yn cynnwys y chwaraewr rygbi Ieuan Evans, y cyn gapten criced Tony Lewis a’r gantores Charlotte Church. Mae’n ardal boblogaidd iawn ymysg dinasyddion sy’n dychwelyd o dramor a mewnfudwyr o dros y ffin yn Lloegr. Cofnoda'r gwerthwyr tai Watts and Morgan sydd â dwy swyddfa yn y Fro, fod 24 y cant o’u prynwyr wedi dod o du allan i Gymru yn 2007.

Wrth gwrs, mae’r fasnach dai ym Mro Morgannwg wedi dioddef yn yr un modd â gweddill y Deyrnas Unedig yn ystod y dirwasgiad. Yn ôl Cyngor y Benthycwyr Morgeisiau, mae prisiau tai wedi gostwng 16 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae hanesion cyfarwydd hefyd o werth tai unigol yn plymio. Meddai Gareth Davies, o Watts and Morgan: “Fe werthais gartref sylweddol yn Ninas Powys am £1.75 miliwn yn 2005. Mae ar werth eto ar hyn o bryd, y tro hwn am £1.15, ac nid yw’n edrych yn debyg y bydd y perchnogion yn dod o hyd i brynwr. Yn gyffredinol, mae prisiau i lawr i lefelau 2004.”

Ac eto mae naws adfywiad yn yr ardal. Yn Sain Tathan, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio terfynol y mis nesaf, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gobeithio adeiladu Coleg Technegol Amddiffyn gwerth £12 biliwn. Bwriad y prosiect hwn yw bodloni anghenion hyfforddiant y Llynges, y Fyddin a’r Awyrlu a bydd wedi ei gynllunio i ddarparu’r sgiliau technegol sydd eu hangen ar luoedd heddiw i forwyr, milwyr ac awyrenwyr ifanc. Bydd yno gyfleusterau ar gyfer 2,000 o fyfyrwyr, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn byw ar y safle, a 700 o staff hyfforddiant a fydd angen tai preifat yn bennaf.
Wrth ymyl y coleg technegol, mae’r Weinyddiaeth hefyd yn bwriadu adeiladu parc busnes ar gyfer cwmnïau awyrofod, yn arbennig y rhai sy’n gweithio ar drwsio awyrennau. Mae’r lleoliad yn ddelfrydol gan y bydd y cwmnïau'n gallu cynnal profion ar lain glanio Sain Tathan. Meddai Rob Quick, cyfarwyddwr adfywio amgylcheddol ac economaidd Bro Morgannwg: “Bydd y ddau brosiect hyn yn hwb enfawr i’r ardal. Bydd yn denu 1,500 o swyddi adeiladu i gychwyn, ac yn ysgogi uwchsgilio’r gronfa gyflogaeth wrth i bobl leol geisio am swyddi gyda’r cwmnïau awyrofod newydd.

“Yn yr hirdymor, rydym yn debygol o weld manteision cysylltiedig i’r diwydiannau hamdden a thwristiaeth. Bydd y myfyrwyr yn derbyn ymwelwyr; bydd gorymdeithiau ymadael (graddio) yn cael eu cynnal; bydd mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’r rhan hon o’r byd. Yn y cyfamser, bydd y parc awyrofod yn denu gweithwyr uchel eu cyflogau ac uchel eu sgiliau i’r Fro.”

Mwy

Diwydiant yn croesawu diwygio radical

Cymhelliannau gwrthnysig yn peri oedi. Galw am adolygiadau strategol rheolaidd Gan Jeremy Lemer, t3, FT, Dydd Gwener 16 Hydref

Rhoddodd cwmnïau amddiffyn a grwpiau lobïo’r diwydiant groeso ddoe i gyhoeddiad cynllun radical i ddiwygio arferion pwrcasu yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ond mynegwyd pryder yngl?n â chyllid ar gyfer rhaglenni amddiffyn. Amlygodd yr adolygiad gan Bernard Gray, cyn ymgynghorwr i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, fod y rhaglen offer amddiffyn yn llawer rhy boeth ac yn dioddef o ganlyniad i gymhelliannau gwrthnysig sy’n peri oedi a chynyddu’r costau. Ar gyfartaledd, mae rhaglenni’n rhedeg tua phum mlynedd yn hwyr a chostau’n cynyddu o tua £300 miliwn. Mae’r costau i’r diwydiant a’r Weinyddiaeth Amddiffyn oherwydd oedi systemig rhwng £900 miliwn a £2.2 biliwn y flwyddyn. Argymhellodd Mr Gray y dylid cyflawni adolygiadau amddiffyn strategol pob dwy flynedd i ailfaintoli cynlluniau gwario, ac y dylid archwilio’r rhaglen offer yn flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn fforddiadwy. Dywedodd Alex Dorrian, prif weithredwr Thales UK, nad oedd y ffaith fod bwlch mor sylweddol yn y gyllideb o syndod i ddiwydiant sydd wedi arfer gweld rhaglenni yn cael eu gohirio er mwyn cydredeg â’r arian sydd ar gael. “Dyna pam ein bod yn cefnogi’n gryf y syniad o adolygiad amddiffyn strategol rheolaidd,” meddai. “Yn y pen draw, mae’n well i ni wybod beth hoffai’r llywodraeth ei wneud er mwyn inni wybod lle i fuddsoddi yn hytrach na gweithio’n ddall.” Ychwanegodd fod y pwyslais ar gyflymu’r broses o benderfynu “yn amlwg yn arbed arian, oherwydd yn y busnes hwn mae amser yn costio arian. Rydym yn barod i weithio gyda’r Weinyddiaeth ar eu targedau.” Dywedodd Ian Godden, cadeirydd ADS, gr?p lobïo diwydiant Awyrofod, Amddiffyn a Diogelwch y Deyrnas Unedig, fod y “diffyg cyfatebiaeth” rhwng ymrwymiadau ariannu a disgwyliadau wedi creu'r problemau presennol ac fe rybuddiodd fod adolygiad amddiffyn wedi ei ariannu’n llwyr yn allweddol er mwyn osgoi problemau tebyg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, dywedodd Richard Lambert, cyfarwyddwr cyffredinol y CBI, fod adolygiad Gray yn cynnig gwersi ehangach ar sut i ddiwygio’r sector cyhoeddus. “Dengys adroddiad Bernard fod lle i annog cynhyrchiant ac ymosod ar aneffeithiolrwydd mewn perthynas â darpariaeth nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus,” meddai. “Byddai datblygu dull mwy cynaliadwy o bwrcasu yn fuddiol iawn i’r diwydiant amddiffyn, ac i ddiogelu buddsoddiad mewn ymchwil a thechnoleg. Byddai’r un mor fuddiol i’r wlad gyfan o ran darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl i'n gwasanaethau rheng flaen, yn hytrach na gweld adnoddau’n cael eu gwastraffu.” Meddai Paul Lester, prif weithredwr VT Group: “Os mabwysiadir yr adroddiad yn llawn neu’n rhannol, bydd cyfle i grwpiau gwasanaeth megis VT Group ostwng costau a gwella perfformiad trwy anfon mwy o waith i gael ei wneud yn allanol.” Roedd rhai swyddogion yn fwy gofalus, fodd bynnag, yn amheus o gynnig mwyaf radical Mr Gray: yr awgrym y dylai’r Weinyddiaeth roi ei gangen pwrcasu offer a chefnogaeth ar gontract allanol er mwyn gwella ei allu i gadw rhaglenni o fewn y gyllideb. “Gydag unrhyw raglen newid nid ydych eisiau lladd y claf,” meddai un uwch swyddog amddiffyn. “Nid oes gan y systemau na’r bobl yn y Weinyddiaeth y gallu i ymdopi â newid o’r fath.” Byddai proses cam wrth gam, meddai’r swyddog, yn fwy tebygol o lwyddo gyda’r diwydiant yn rheoli gweithgareddau amddiffyn nad ydynt yn greiddiol, a sefydliadau wedi eu cyfran werthu megis y Gr?p Cefnogaeth Amddiffyn sydd eisoes yn weithredol fel cwmnïau masnachol. Efallai y bydd newyddion llai ffafriol yn yr adolygiad amddiffyn pan fydd yn cyrraedd y flwyddyn nesaf. Dywedodd yr Arglwydd Drayson, y gweinidog sy’n gyfrifol am ddiwygio pwrcasu amddiffyn, ei fod yn barod i wneud penderfyniadau anodd er mwyn dod â gwariant ar offer yn ôl o fewn terfynau’r gyllideb.

Dilema Amddiffyn
Disgwylir i’r ddau gludydd awyrennau newydd gostio tua £4.6 biliwn. Mae £1.4 biliwn eisoes wedi ei wario, felly byddai canslo’r ddwy long yn arbed tua £3 biliwn, tra byddai prynu un cludydd yn unig yn arbed £1.5 biliwn.
Ffynonellau: Dadansoddiad Amddiffyn, Ymchwil FT
Mae’r awyren drafnidiaeth filwrol dros dair blynedd yn hwyr ac o leiaf €2 biliwn dros y gyllideb. Gan fod y gwneuthurwr, Airbus, wedi torri amodau ei gytundeb, fe allai’r Deyrnas Unedig droi eu cefnau’n llwyr ar y prosiect. Ond byddai’n rhaid cael awyrennau yn lle’r hen Hercules, felly prin iawn fyddai cyfanswm yr arbedionl

Pris y rhaglen Adolygu Hyfforddiant Amddiffyn, sy’n ceisio canoli hyfforddiant technegol y lluoedd arfog yng Nghymru, yn £12 biliwn dros 30 mlynedd. Vince Cable, llefarydd Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol, yn argymell yn ddiweddar na fyddai canslo’r rhaglen yn arbed swm sylweddol o arian gan y byddai’n rhaid i’r gyfundrefn hyfforddi bresennol barhau.

Yn ystod yr haf, fe gytunodd y Weinyddiaeth i brynu 40 awyren Eurofighter Typhoon am oddeutu £3 biliwn. Mae’r gwneuthurwyr yn dadlau ei fod dan ymrwymiad cytundebol i brynu 48 arall o’r jetiau rhyfel. Fodd bynnag, mae’r weinyddiaeth amddiffyn yn dadlau nad yw’r honiad yn wir ac y gallai arbed oddeutu £3 biliwn trwy beidio prynu. Mae'r llywodraeth yn ymroddedig i adeiladu tair neu bedair llong danfor newydd er mwyn cario’r taflegrau Trident D5 sy’n gweithredu fel grym ataliol y Deyrnas Unedig. Bydd cost y prosiect rhwng £15 biliwn ac £20 biliwn. Dywed Gordon Brown y bydd yn ystyried pa mor gost effeithiol fyddai cael tair llong danfor yn unig.


Awyrennau ymladd a bomio
Ar hyn o bryd mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymroddedig i brynu 138 o awyrennau ymladd a bomio’r genhedlaeth nesaf. Ond mae gan y Deyrnas Unedig le i ostwng y niferoedd. Byddai oddeutu 60 o awyrennau’n ddigon i un cludydd a chadw nifer o jetiau ar gyfer hyfforddiant. Gallai hynny arbed hyd at £7 biliwn. Os byddai’r cludyddion yn cael eu canslo’n llwyr, gallai’r F-35 gael ei ganslo hefyd gan arbed tua £10 biliwn.

Archif Storïau’r Wasg

Cynllunwyr yn rhoi caniatâd i’r Coleg Technegol Amddiffyn £12 biliwn

DYRANNWYD caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect £12 biliwn allai greu miloedd o swyddi yn y Fro.... – Barry & District News - 1.10

Caniatâd ar gyfer coleg amddiffyn £12 biliwn

Cafodd y prosiect £12 biliwn i adeiladu coleg technegol amddiffyn yn Ne Cymru gymeradwyaeth neithiwr... – Wales Online - 25.9

Scott Brownrigg yn cynllunio Teml Gurkha ar gyfer coleg y Weinyddiaeth Amddiffyn

Bydd y llusern ar frig yr adeilad yn taflu allan ‘olau ysbrydol’ yn y cyfleuster hyfforddi milwrol £700 miliwn.... – Building - 28.8

Cynllun ar gyfer teml Gurkha yng ngholeg Sain Tathan

Bydd teml Gurkha yn rhan o “barth aml-ffydd” yn y Coleg Technegol Amddiffyn arfaethedig yn Sain Tathan, Bro Morgannwg..... – South Wales Echo - 31.8

Teml Gurkha yn cael cymeradwyaeth

Mae Aelod Seneddol o Dde Cymru wedi croesawu cynlluniau i adeiladu teml ar gyfer milwyr Gurkha yng Ngholeg Technegol Amddiffyn newydd gwerth £12 biliwn yn Sain Tathan... – South Wales Echo - 25.8

Aelod Seneddol yn croesawu Teml i'r Gurkhas

Mae AS y Fro John Smith wedi croesawu cynlluniau a gyflwynwyd gan Metrix i adeiladu teml ar gyfer milwyr Gurkha, a fydd yn derbyn hyfforddiant technegol yn y Coleg Technegol Amddiffyn gwerth £12 biliwn yn Sain Tathan... – GEM - 27.8

Metrix yn agosáu at Fenter Cyllid Preifat y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae Metrix, menter ar y cyd QinetiQ/Sodexo, wedi sicrhau cytundeb £31 miliwn ($51 miliwn) gan Weinyddiaeth Amddiffyn y DU yn rhan o’i Becyn Adolygiad Hyfforddiant Amddiffyn £12 biliwn... – Project Finance Magazine - 18.8

Sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Hain: mae’r Coleg Technegol Amddiffyn newydd yn cynnig “manteision enfawr” i Gymru a bydd yn “fodel ar gyfer hyfforddiant” yn y DU... – Mwy…

Strategaeth Amddiffyn

Metrix - menter 50/50 rhwng y cwmni rheoli cyfleusterau Sodexo a Qinetiq... – Contract Journal - 9.9

Consortiwm Qinetiq yn Ennill Cytundeb

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwobrwyo cytundeb gwerth 31 miliwn o bunnoedd i Metrix, cytundeb a arweinir gan gwmni ymchwil Qinetiq... – Investors Chronicle - 17.8

Metrix yn Ennill Cytundeb

Mae Metrix, menter ar y cyd rhwng gr?p technoleg amddiffyn QinetiQ a’r gr?p rheoli adnoddau Sodexo, wedi sicrhau cytundeb gwerth £31 miliwn... – Proactive Investors UK - 17.8

Hyfforddiant Cynnar

Mae Metrix, menter ar y cyd rhwng Qinetiq a Sodexo, wedi sicrhau cytundeb gwerth £31 miliwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i wella hyfforddiant masnach dechnegol... – The Engineer Online - 17.8

Gallai’r ganolfan hyfforddiant milwrol yng nghyn safle'r Awyrlu, Sain Tathan fod yn fendith economaidd i Fro Morgannwg

Gallai creu canolfan filwrol gwerth £12 biliwn ym Mro Morgannwg droi’r gymuned wledig fechan yn rhanbarth ffyniant nesaf Cymru... – Wales Online - 19.8

Hwb Coleg Amddiffyn wrth arwyddo cytundeb £31 miliwn

Mae consortiwm Metrix yn cyfeirio at gytundeb newydd a arwyddwyd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn fel prawf fod datblygiad CTA yn dal ar waith... – The Glamorgan GEM

Consortiwm yn ennill cytundeb coleg gwerth £12 biliwn

Mae cytundeb hyfforddiant gwerth miliynau o bunnoedd wedi ei ddyrannu i’r consortiwm sy’n gyfrifol am y Coleg Technegol Amddiffyn arfaethedig gwerth £12 biliwn... – South Wales Echo, Peter Collins

Yn Gryno

Cwmni technoleg amddiffyn Qinetiq yn cyhoeddi cytundeb £31 miliwn...  –
Express & Star
18.8

Metrix yn ennill Cytundeb Hyfforddiant gwerth £31 miliwn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Dywedodd QinetiQ Group PLC (QQ.LN), darparwr rhyngwladol gwasanaethau seiliedig ar dechnoleg, ddydd Llun fod Metrix, menter ar y cyd rhwng QinetiQ a Sodexo, wedi sicrhau cytundeb gwerth £31 miliwn... – Wall Street Journal 17.8

Y Deyrnas Unedig yn Cloi Cytundeb Hyfforddiant gwerth £12 Biliwn

Llundain – Amheuon yngl?n â dyfodol cytundeb 12 biliwn o bunnoedd ($19.9 biliwn)... – DefenseNews.com - 17.8

Consortiwm Qinetiq yn ennill cytundeb

Mae Metrix wedi arwyddo cytundeb £31 miliwn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn – FT.com - 17.08

Datganiad i’r Wasg Metrix – Cyhoeddiad Gweddnewid Hyfforddiant Cynnar

Mae Metrix wedi llofnodi cytundeb £31 miliwn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn – Cliciwch yma i weld y Datganiad i’r Wasg

Rhan gyntaf Coleg Amddiffyn yn derbyn caniatâd

Mae’r datblygiad mawr cyntaf fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer Coleg Technegol Amddiffyn gwerth £12 biliwn yn Sain Tathan wedi ei gymeradwyo... Mwy…

Caniatâd cynllunio am 5 mlynedd i goleg hyfforddiant Sain Tathan

Rhoddwyd caniatâd cynllunio dros dro am bum mlynedd i goleg hyfforddiant Sain Tathan er mwyn adeiladu deg adeilad newydd, symud yr adran chwaraeon ac ymestyn adeiladau presennol... Mwy…

Addewid Aelod Seneddol

Mae Aelod Seneddol y Fro, John Smith wedi addo gwneud y gorau o fanteision y Coleg Technegol Amddiffyn £13 biliwn yn Sain Tathan... .. Mwy…

Chwaraeon Dau Fynediad ar raddfa fawr

Yn rhan o’r Adolygiad Hyfforddiant Amddiffyn, bydd y Coleg Technegol Amddiffyn cynhwysfawr yn Sain Tathan, De Cymru, yn uno... Mwy…

Hwb i’r Fro

Gan Fred Redwood, Cyhoeddwyd 1 Awst 2009 Dim ond hen grintach fyddai’n gwadu manteision traffyrdd modern, ond un o’i methiannau yw eu bod yn niwtraleiddio’r dirwedd. Mae’r olygfa wledig ar bob ochr yn gwibio heibio fel niwl... Mwy…

Diweddariad ar y Coleg i’r Gweinidog

Barry & District News, Dydd Sul 9 Awst 2009
Bu Aelod Seneddol Bro Morgannwg, John Smith, yn cwrdd â’r Arglwydd Drayson, y Gweinidog Gwladol dros Gaffael Amddiffyn Strategol yn Sain Tathan wythnos diwethaf i drafod datblygiad y Coleg Technegol Amddiffyn newydd... Diweddariad ar y coleg i’r gweinidog

‘Rydym yn cefnogi Cynllun Sain Tathan’ medd AC Torïaidd

Mae’r Aelod Cynulliad rhanbarthol, Alun Cairns wedi cwrdd â phennaeth Metrix, Charles Barrington – er mwyn rhoi ei gefnogaeth i’r Coleg Technegol Amddiffyn arfaethedig gwerth biliynau yn Sain Tathan... Mwy…

Y cyntaf i gyrraedd ar eu ffordd wrth i realiti academi amddiffyn £12 biliwn nesáu at gyflawniad

Bydd tîm o arbenigwyr sydd â’r dasg o ddarparu hyfforddiant technegol i Luoedd Arfog Prydain yn symud i’r safle yn Ne Cymru... Mwy…

Metrix yn llunio cynlluniau

Bydd Metrix, y cwmni sy’n ymgeisio i gael adeiladu coleg technegol amddiffyn yn Sain Tathan... . Mwy…

Aelod Seneddol yn obeithiol yngl?n â chynllun coleg amddiffyn

Mae AS y Fro John Smith yn dal i gefnogi’r achos dros Goleg Technegol Amddiffyn... Mwy…

Barn o San Steffan

Roedd yn braf gweld y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyflwyno cofnod gerbron T?’r Cyffredin, yn hysbysu Aelodau Seneddol o’u bwriad i warantu £44 miliwn.... Mwy…

Metrix yn selio cytundeb Ad-drefnu Hyfforddiant Amddiffynl

Mae Metrix, menter ar y cyd rhwng QinetiQ a Sodexo, wedi sicrhau cytundeb gwerth 31 miliwn... Mwy…

Metrix yn selio Cytundeb gwerth £31 gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwobrwyo cytundeb £31 miliwn i Metrix... Mwy…

Sodexo yn ennill cytundeb gwerth £31 gan

Bydd Sodexo, fel rhan o gonsortiwm Metrix, yn darparu hyfforddiant ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn... Mwy…

Metrix
SodexoQinetiQ
Laing O'Rourke City & Guilds The Open University Nord Anglia Education PLC EDS Raytheon