Metrix
The Metrix consorium combines the best in technical knowledge, the best in education and training and the best in land property and facilities management

Metrix Training

Rhyngddynt, mae’r tri choleg a geir ym Mhecyn AHA 1, sef DCEME, DCCIS a DCAE, sydd â’u pencadlysoedd yn HMS SULTAN, RAF Cosford a Gwersyll Blandford, yn darparu mil o gyrsiau gwahanol bob blwyddyn. Maent yn amrywio o gyrsiau arbenigol Cymal 3 sy’n para am ddiwrnod i ychydig wythnosau, i gyrsiau egwyddorion Cymal 2 a all bara am dros 18 mis. Mae rhai eisoes yn defnyddio cyfarpar milwrol uwch, efelychyddion ac e-ddysgu. Mae’r rhan fwyaf, fodd bynnag, yn defnyddio dysgu traddodiadol mewn ystafelloedd dosbarth lle mae’r hyfforddwr yn sefyll o flaen y dosbarth.

Un peth sy’;n gyffredin ym mhob achos yw eu bod yn creu rhai o’r personél milwrol gorau yn y byd. Rhaid i’r ffaith hon fod ym mlaen meddwl timau dylunio Metrix wrth iddynt ddatblygu cyrsiau i’r dyfodol.

Mae ‘ail-lunio’ cyrsiau’n rhan hanfodol o raglen Metrix i drawsffurfio hyfforddiant. Mae ail-lunio cyrsiau’n caniatáu inni gyflwyno cymysgedd llawer cyfoethocach o dechnegau dysgu modern, gan gynnwys efelychiadau, e-ddysgu rhyngweithiol a chydweithio ar y we yn ogystal â hyfforddiant ymarferol dan arweiniad hyfforddwyr.

Bydd trawsffurfio hyfforddiant mewn amddiffyn gan Metrix yn dod â manteision i rai sydd dan hyfforddiant, i hyfforddwyr, i golegau ac i unedau milwrol yn y rheng flaen.

Dyma’r heriau a geir ym Mhecyn AHA 1, sef un o’r rhaglenni trawsnewid hyfforddiant mwyaf yn y byd.



Pecyn AHA 1 – Egwyddor Newydd mewn Hyfforddiant
Fel rhan o’r Pecyn AHA 1, cyflwynir Ysgol Egwyddorion newydd i ategu hyfforddiant technegol mewn amddiffyn. Beth yw’r Ysgol hon, felly, a sut bydd hi’n gwella bywyd - i’r dysgwyr ac i’r lluoedd arbenigol?

Y cyd-destun

Mae gan y tri Gwasanaeth gyrsiau sy’n gorgyffwrdd yn y tri llif sy’n rhan o Becyn AHA 1: PA (Peirianneg Awyrennol), PE (Peirianneg Electromecanyddol), a SCG (Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth). Yng nghyd-destun y llifoedd hyn rhai i bawb gyrraedd gwaelodlin cymhwysedd sylfaenol, ni waeth am y llwybr, a dyna arwyddocâd yr Ysgol Egwyddorion Rheoli Peirianneg (ERhP) newydd.

“Yr egwyddor yw ysgrifennu unwaith a defnyddio drosodd a thro,” yn ôl Richard Weeks, y prif Beiriannydd gyda Thîm Hyfforddi Metrix. “Mae rhai syniadau sylfaenol mewn peirianneg yn berthnasol i bawb, beth bynnag fo’r fasnach neu’r Gwasanaeth. Mae’r egwyddorion hyn yr un peth boed mewn awyrendy neu beiriandy. Mae iechyd a diogelwch, egwyddorion rheoli, TG; mae mathemateg yn enghraifft dda - nid yw sylfeini peirianneg yn newid ond gall y defnydd a wneir ohonynt amrywio’n fawr. Byddwn yn ymestyn y syniad o greu sylfaen gadarn o wybodaeth a sgiliau perthnasol ar draws pob Gwasanaeth a Masnach.”...  Mwy…

Rhan o’r nod i Metrix yw moderneiddio dulliau hyfforddi pobl, er budd i hyfforddwyr a hyfforddeion. Mae’r Ysgol Egwyddorion newydd yn llwyfan perffaith i ddatblygu technegau newydd. “Byddwn yn defnyddio cyfuniad o ddysgu a fydd o gymorth i wahanol ddulliau dysgu,” medd Richard.

“Bydd yr Ysgol newydd yn cymhwyso’r meddwl gorau at y broblem hon, gan adnabod anghenion cyffredin o ran hyfforddiant a chreu pobl ifanc gwbl gadarn ar gyfer y cyrsiau arbenigol”.

Er mai partneriaeth rhwng sifiliaid a’r gwasanaethau milwrol yw’r CTA, bydd yr Ysgol newydd dan reolaeth sifiliaid. Fodd bynnag, bydd y modiwlau newydd yn rhan o gyrsiau sy’n eiddo i’r llifoedd sydd eisoes yn bod. Y syniad yw cefnogi ac ailstrwythuro’r sylfaen sgiliau fel y mae, ac nid ei newid.

“Mae’n bwysig nodi y bydd ein gallu i ddysgu’r union sgiliau angenrheidiol i’r swydd yn cadw’r ffocws ar gyflawni. Byddant yn dod yn fwy defnyddiol, hyderus a gwydn, a’r gobaith yw y byddant yn dychwelyd er mwyn ehangu eu dysgu”.

 


Metrix
SodexoQinetiQ
Laing O'Rourke City & Guilds The Open University Nord Anglia Education PLC EDS Raytheon